Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, o’ch trafodaethau parhaus ag arweinwyr cynghorau, un o’r pethau pwysicaf ar gyfer cyngor llwyddiannus yw’r gallu i flaengynllunio yn ariannol. Wrth gwrs, mae'r cyhoeddiad y llynedd ein bod ar setliad dangosol tair blynedd yn sicr wedi'i groesawu gennyf fi a'r cynghorau yn gyffredinol. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o ba mor ddigonol fydd setliad dangosol cychwynnol llywodraeth leol y flwyddyn nesaf i gynghorau?