Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 29 Mehefin 2022.
Wel, rwy’n ymwybodol fod menywod, gan gynnwys y rheini a chanddynt gyfrifoldebau gofalu, a’r rheini sydd wedi ymddeol, a dweud y gwir, yn gyffredin iawn ymhlith gweithredwyr llety hunanddarpar. Ond nid yw'n glir, fodd bynnag, y byddai gweithredwyr o'r fath yn llai abl na phobl eraill i osod eu heiddo am gyfnod hirach o'r flwyddyn, o ystyried y ffaith eu bod yn gweithredu busnesau. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael yn hyn o beth, ac yn sicr, nid oes unrhyw dystiolaeth y gellir ei dilysu gan Lywodraeth Cymru, ond rwy’n ymwybodol o’r pryderon y mae’r Aelod yn eu codi.