Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch, Weinidog. Hoffwn eich holi ynglŷn â'r cynnydd cynnar gyda bargen twf canolbarth Cymru. Deallaf fod rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Powys, yn pryderu am y diffyg cyllid sbarduno refeniw i roi hwb i’r prosiectau cyfalaf a nodwyd fel rhan o’u rhaglen a fyddai’n rhoi hwb gwirioneddol i’r cymunedau hynny ac i lywodraeth leol. Y rhwystredigaeth yw bod prosiectau’n dod i stop oherwydd y flaenoriaeth a roddir i gyllid cyfalaf yn hytrach na chyllid refeniw, a’r cwestiwn sydd wedi’i ofyn i mi yw beth am fwy o hyblygrwydd ynghylch defnyddio cyllid y fargen twf fel cyllid refeniw er mwyn rhoi hwb i’r prosiectau hynny. Felly, fy nghwestiwn yw p'un a oes unrhyw gamau y gellid eu cymryd i ddarparu hyblygrwydd neu i ddarparu’r cyllid sbarduno hwnnw i awdurdodau lleol er mwyn rhoi hwb i’r prosiectau hynny. Diolch yn fawr iawn.