Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:49, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Bydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd hon cyn bo hir. Nawr, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi y bydd gweithgareddau'r banc, ac rwy'n dyfynnu, yn darparu

'cymorth ariannol i brosiectau sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â seilwaith’ ac yn darparu

'benthyciadau i awdurdodau cyhoeddus perthnasol ar gyfer prosiectau o'r fath'.

Mae'n mynd yn ei flaen i egluro bod ei waith yn cael ei gefnogi gan strategaeth seilwaith genedlaethol newydd a chanddi dri phrif amcan, sef adferiad economaidd, ffyniant bro a datgloi potensial yr undeb. I ba raddau y credwch fod y tri amcan hynny'n adlewyrchu amcanion a blaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth Cymru? A beth a wnewch i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad a allai ddod i Gymru drwy'r banc buddsoddi arfaethedig yn ategu amcanion ehangach y Senedd hon, fel y cânt eu hadlewyrchu yn neddfwriaeth Cymru ar hyrwyddo datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn y blaen?