Cefnogaeth i Ffermwyr yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:27, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn sicr, rwy'n hapus iawn i ymuno â chi i longyfarch ein holl ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd a diod gwych o Gymru, sydd wedi cyflawni cymaint o allforion. Ac ni allech gael cyfnod mwy heriol i'n hallforwyr, oni allech? Yr wythnos diwethaf, ymwelais â busnes newydd, sydd ond yn flwydd oed, yn Nhrefynwy, ac roeddent eisoes yn allforio. Cwmni diod ydoedd, ac roeddent eisoes yn allforio eu diod. Rwy'n credu bod i gwmni fod yn ddigon dewr i allforio yn y cyfnod arbennig o heriol hwn—. Ac roeddent yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru yno. Rwy'n mwynhau edrych ar ffrwd Twitter Gareth Wyn Jones yn arbennig. Mae'n dda iawn, rwy'n credu, am ddangos y gwaith caled y mae ffermwyr yn ei wneud i gynhyrchu'r bwyd anhygoel hwnnw. Rydym yn arwain y byd yng Nghymru gyda'r bwyd a gynhyrchwn yma. Gallaf eich sicrhau y bydd cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn rhan gwbl ganolog o'r cynllun ffermio cynaliadwy, y byddaf yn ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, a'r Bil amaethyddol.