Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am godi mater dwi wedi codi o'r blaen, os caf i. Mae'r cynnydd aruthrol mewn prisiau porthiant, tanwydd a gwrtaith yn taro'n ffermwyr ni yn galed iawn ar hyn o bryd. Mae yna ddiffyg calch mewn rhai ardaloedd. Mae prinder disel coch, sydd wedi cynyddu 50 y cant mewn blwyddyn, ac mae pris gwrtaith wedi mwy na threblu ers y llynedd. Mae yna ddiffyg argaeledd cynhwysion bwyd anifeiliaid, fel indrawn, neu maize fel dwi wedi dysgu heddiw, a phrydau blodau haul. Ac mae'r bwrdd datblygu amaeth wedi amcangyfrif y bydd pris dwysfwydydd porthiant yn cynyddu 40 y cant. O ganlyniad, mae ffermwyr eisoes yn edrych i addasu eu cynlluniau hadu a phlannu.
Mae'r arwyddion i gyd yma o'r potensial inni weld problemau cynhyrchu a chyflenwi bwyd ar y gorwel. Fel soniodd fy nghyfaill Llyr Gruffydd ddoe, ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Iwerddon gynllun tyfu cnydau gwerth €12 miliwn, ymhlith nifer o gamau eraill. Mae angen cynllun arnom ni yma er mwyn osgoi argyfwng bwyd, ynghyd ag argyfwng lles anifeiliaid. Dylai trafferthion diweddar ffermydd moch fod yn rhagrybudd o hynny. Mae'r atebion a gafwyd ddoe yn dangos nad oes yna gynllun penodol mewn lle ar gyfer sicrhau diogelwch porthiant. Felly, a oes bwriad gan y Llywodraeth i ddatblygu cynllun i fynd i'r afael â'r argyfwng porthiant anifeiliaid sy'n wynebu ffermwyr y gaeaf hwn? Wedi'r cyfan, mae'n well paratoi rŵan na phanicio wedyn.