Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 29 Mehefin 2022.
Roeddwn yn meddwl eich bod wedi gweld y gwahoddiad eisoes. Ydi, mae'n wir. Ar 14 Gorffennaf, byddaf yn cynnal y cyfarfod cyntaf, ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu hynny. Fel y dywedoch chi, rhoddais sicrwydd i'r pwyllgor. Bydd yn ddiddorol gweld hynny. Credaf ei bod yn hanfodol fod gennym strwythur newydd ar waith. Roedd gennym Grŵp Cynghori Cymru ar y Môr a Physgodfeydd ers cryn dipyn o amser, ond rydym mewn byd newydd yn awr—rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—ac mae'n rhaid inni sicrhau bod ein pysgotwyr yn cael llawer mwy o gyfleoedd nag y maent wedi'u cael yn y gorffennol. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i sicrhau bod pysgotwyr Cymru'n cael eu cyfran deg o gwotâu. Rydym bob amser wedi cydgynllunio a chydreoli pysgodfeydd, o ran rheolaeth a'r ffordd yr ydym wedi edrych ar gynlluniau a gyflwynwyd gennym, yn enwedig gyda COVID ac yn y blaen. Felly, nid wyf yn credu y bydd y strwythur yn newid. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw bod y cyngor a roddir i mi, fel Gweinidog, a fy swyddogion, yn cwmpasu'r holl ystod o bysgodfeydd a materion morol.