Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:32, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am hynny, Weinidog, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny'n ysgrifenedig gyda chi.

Yn olaf, hoffwn dynnu eich sylw at y digwyddiad 'Dathlu Cymru Wledig' diweddar, a gynhaliwyd ar faes y Sioe Frenhinol yn gynharach y mis hwn, digwyddiad y nododd datganiad i'r wasg eich Llywodraeth ei fod yn gyfle

'i ddysgu'r gwersi o lwyddiannau niferus y CDG'— cynllun datblygu gwledig a feirniadwyd yn flaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Nawr, roedd cost ariannol y digwyddiad hwn dros £85,000, y cadarnhawyd ei fod wedi'i ariannu drwy gyllideb cymorth technegol y rhaglen datblygu gwledig. Mewn datganiad i'r wasg, fe ddywedoch chi fod tua 200 o bobl wedi mynychu'r digwyddiad, gan olygu bod y gwariant oddeutu £425 y pen. Nawr, o gofio bod arian cyhoeddus wedi'i ddefnyddio i ariannu'r digwyddiad hwn, byddwn yn disgwyl i'r digwyddiad gael ei gynnal er budd y rhai sy'n gwneud ceisiadau i Taliadau Gwledig Cymru. Fodd bynnag, nid oedd cael cyfeirnod cwsmer yn un o'r rhagofynion ar gyfer mynychu. Os na allwn fesur nifer y mynychwyr a oedd yn derbyn arian drwy'r cynllun datblygu gwledig, h.y. y rhai a all ddysgu gwersi i ni ynglŷn â chyllid y cynllun, pa fetrig a ddefnyddiwyd i fesur llwyddiant y gynhadledd hon? Ac er mwyn bod yn dryloyw, sut rydych yn dangos bod y digwyddiad hwn yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru?