Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 29 Mehefin 2022.
Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am ofyn y cwestiwn hwn. Mae eich ffigurau eich hun yn awgrymu, Weinidog, fod tua 30 y cant o'r gwastraff a gynhyrchir ar ffermydd yn blastig gradd isel, a gall fod yn anodd iawn i ffermwyr gael gwared arno. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sefydlu mentrau cydweithredol a gweithio gyda ffermwyr fel y gallant helpu i waredu'r plastig hwnnw a'i ailgylchu? A pha waith ymchwil a datblygu sydd wedi'i wneud gyda Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i helpu'r sector ffermio i leihau ei ddefnydd o blastigion ar gyfer pethau fel deunydd lapio silwair, sy'n anodd iawn i'w ailgylchu? Diolch, Lywydd.