Deddfwriaeth Diogelu Cŵn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:53, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect gorfodi awdurdodau lleol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau lles anifeiliaid i fonitro effeithiolrwydd ein gwaith i ddiogelu cŵn ac i ystyried camau pellach. Rwy'n cefnogi mesurau pellach i sicrhau bod safonau lles uchel yn cael eu cynnal mewn materion fel bridio cŵn.