Deddfwriaeth Diogelu Cŵn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:54, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Er ei fod yn gam pwysig iawn, rwy'n credu fy mod bob amser yn pwysleisio nad oedd y rheoliadau a gyflwynais y llynedd ar werthiannau anifeiliaid anwes yn mynd i'r afael â'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â masnachu cŵn bach. I adlewyrchu hyn, rydym yn cefnogi mesurau pellach i sicrhau safonau lles uchel mewn sefydliadau bridio cŵn. Rwyf hefyd yn cydnabod atyniad gwerthiant cyflym, heb ei reoleiddio a all ddenu bridwyr a gwerthwyr diegwyddor i wefannau. Felly, am y rheswm hwnnw, rydym yn cefnogi gwaith y grŵp cynghori DU gyfan ar hysbysebu anifeiliaid anwes sy'n ceisio sicrhau bod hysbysebion anifeiliaid anwes ar-lein yn gyfreithlon ac yn foesegol. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod hefyd wedi cefnogi'r prosiect gorfodi i awdurdodau lleol, ac mae hwnnw'n cysylltu'n agos â'r heddlu, felly mae'n faes a gadwyd yn ôl. Ond rwyf am ddweud, os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon penodol, dylent gysylltu â CrimeStoppers fel mater o frys.