Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn iawn i nodi’r oedi parhaus cyn cyflwyno archwiliadau mewnforio’r Undeb Ewropeaidd, sy’n risg i'n bioddiogelwch cyffredinol. Mae'r risg yn cael ei dwysáu yn sgil diffyg mynediad at allu i olrhain, systemau hysbysu am glefydau a systemau ymateb brys yr Undeb Ewropeaidd. Mae gwarchod bioddiogelwch yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond yn amlwg, mae'n synnwyr cyffredin fod dull gweithredu DU gyfan o ymdrin â hyn yn cael ei fabwysiadu, gyda Thrysorlys y DU yn ariannu unrhyw wariant sydd ei angen ar fesurau rheoli ffiniau. Felly, pa ddeialog a sicrwydd pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu ceisio gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau ffermio Cymru yn cael eu diogelu yn fwy hirdymor?