Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 29 Mehefin 2022.
Mae’r cyfarfod hwnnw'n mynd rhagddo, yn wir. Yn amlwg, nid wyf yn y cyfarfod hwnnw; dyna pam fy mod yn y Siambr yn ateb y cwestiwn hwn. Ond credaf y gallwn ddweud gyda rhywfaint o sicrwydd, rwy’n siŵr, y bydd y Cwnsler Cyffredinol neu’r Prif Weinidog, neu bwy bynnag sy’n bresennol yn y cyfarfod hwnnw, yn codi hynny, yn wir.
Credaf mai'r un pwynt arall yr hoffwn ei wneud, ar ôl ymchwilio i hyn yn llawer manylach bellach, yw bod Llywodraeth y DU, yn fy marn i, yn llawer gwannach am na wnaeth herio bum mlynedd yn ôl, yn ystod y cyfnod hysbysu. Ac mae gwneud hyn yn sydyn—ei sleifio allan fel y gwnaethant—unwaith eto, yn ymosodiad haerllug yn fy marn i.