Setliad Datganoli Cymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:03, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n gwbl gywir, onid yw, Drefnydd? Oherwydd, ers dechrau datganoli democrataidd, drwy etholiad neu refferenda, mae pobl Cymru wedi pleidleisio dro ar ôl tro i gynyddu pwerau deddfu’r Senedd. Mae’r union egwyddor a sefydlwyd drwy ddulliau democrataidd yn cael ei thanseilio gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan. Mae’r Siambr hon yn cael ei thanseilio. Mae dirmyg Prif Weinidog y DU tuag at reolaeth y gyfraith yn llawn cymaint â thuag at ddatganoli yn yr achos hwn.

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio sawl tro y gallai proses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol danseilio’r lle hwn. Rwy’n mawr obeithio y bydd y Siambr hon yn dechrau cydnabod y diystyrwch amlwg hwn tuag at ein Siambr yma, wrth i Lywodraeth San Steffan danseilio deddfwriaeth sylfaenol Cymru drwy eu deddfwriaeth eu hunain. Mae'r amser ar gyfer llythyrau llym, yr amser ar gyfer cynddaredd, wedi dod i ben. Mae arnom angen gweithredu. I fenthyg ymadrodd gan y rheini sydd wedi gorfod ymladd dros eu rhyddid democrataidd, mae bellach yn bryd gweithredu, nid siarad. Felly, Drefnydd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymateb i’r weithred warthus a dinistriol hon? Diolch yn fawr.