Gwasanaethau Gofal Llygaid

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:11, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Lywydd, mae Gwyn Williams, ein harweinydd clinigol ar offthalmoleg, ynghyd â Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r strategaeth gofal llygaid yr ydym yn ei chyflawni erbyn hyn. Dros y 12 mis diwethaf, mae gwasanaethau gofal llygaid wedi cyflwyno llawer o ddatblygiadau arloesol i sicrhau bod cleifion sydd mewn perygl o golli eu golwg yn cael eu gweld a’u trin.