Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 29 Mehefin 2022.
Credaf fod yr hyn y mae Mike Hedges wedi’i ddweud ynglŷn ag uchafiaeth, mewn perthynas â Llywodraeth y DU, yn amlwg yn bwysig iawn. Ac af yn ôl at fy ateb i Jack Sargeant—dyna pam ein bod wedi sefydlu’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gall hwnnw edrych yn fanwl iawn ar yr awgrymiadau a oedd gan Mike Hedges, i weld a allem gryfhau’r setliad presennol.