Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 29 Mehefin 2022.
Ers 2018, y polisi yng Nghymru ydy bod gofal llygaid a'r math o ofal sy'n cael ei gynnig yn seiliedig ar y lefel o risg. Mi oedd yn arloesol yn hynny o beth, efo cleifion i gael eu gweld yn ôl faint o risg maen nhw'n ei wynebu. Ac mae'r ffactor risg uchaf ar gyfer y rheini sy'n wynebu'r risg o newid di droi nôl, neu irreversible harm. Ac i bobl sydd â problem efo'u golwg, mae hynny yn golygu risg o golli eu golwg. Rŵan, er mwyn i system fel yna weithio, mae'n rhaid i bobl gael eu gweld o fewn amser penodedig. Mae mor syml â hynny, a dyna pam bod y targed yn nodi bod angen i 95 y cant o gleifion gael eu gweld o fewn yr amser hwnnw. Mi ddylai fod yn 100 y cant, am wn i, ond mae 95 y cant yn ystadegol yn eithaf agos ati. Ond rŵan rydyn ni'n clywed bod 65,000 o bobl ddim yn cael eu gweld o fewn yr amser penodedig: 65,000 o bobl yn wynebu colli eu golwg.
Mi wnes i dynnu sylw at hyn yng nghanol misoedd tywyll y pandemig ym mis Chwefror y llynedd, yn poeni am effaith y pandemig, ond rŵan ein bod ni'n symud allan, gobeithio, o'r pandemig, mae'r problemau yn dwysáu. Mae'n ddigon drwg pan fydd pobl yn aros mewn poen am driniaeth orthopedig, o bosibl, ond rydyn ni yn sôn fan hyn, fel dwi'n dweud, am bobl sy'n colli eu golwg.
Rydyn ni wedi clywed am yr NHS yn dechrau cael targedau newydd ôl COVID, felly, Llywydd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog yn syml iawn pa bryd fydd hi'n ymrwymo nid i leihau faint o bobl sy'n aros yn hirach nag y dylen nhw, ond i gael gwared ar yr amseroedd aros yma'n llwyr? Does yna ddim pwynt i chi gael system sy'n seiliedig ar fesur risg os ydych chi wedyn yn gadael degau o filoedd o bobl yn agored i'r lefel uchaf posibl o risg.