5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus — Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:20, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Ar y pryd, ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru atom hefyd, gan gadarnhau’r oedi pellach hwn a datgan ei fod wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth iddo erbyn dechrau mis Ionawr 2022. Derbyniwyd hyn gan y pwyllgor, a gwnaethom gytuno i aros am ganlyniad y gwaith pellach hwn, gan barchu'r broses archwilio angenrheidiol. Rydym yn gwerthfawrogi rôl a gwaith Archwilio Cymru yn sicrhau y cedwir at y safonau adrodd ariannol gorau ac na ddylai’r gwaith hwn gael ei danseilio, ei ruthro na’i lyffetheirio. Mae'r archwilydd cyffredinol wedi'i rwymo gan ddyletswyddau i sicrhau bod y prosesau archwilio priodol ar waith.

Mae'n rhaid imi bwysleisio na allwn drafod y rheswm penodol dros yr oedi. Hyd nes y caiff y cyfrifon eu cymeradwyo, ni allwn drafod hyn, gan nad yw'n wybodaeth gyhoeddus, ac yn ôl yr hyn a ddeallwn, gallai fod yn destun achos cyfreithiol hyd yn oed. Hoffwn gofnodi hefyd, er bod y cyfrifon wedi’u gohirio, fod y pwyllgor wedi bod yn derbyn diweddariadau preifat rheolaidd ar y cynnydd a wnaed yn cwblhau’r cyfrifon. Mae’r diweddariadau hyn wedi’u darparu gan yr archwilydd cyffredinol a Llywodraeth Cymru, gan alluogi’r pwyllgor i fonitro’r sefyllfa.

Fodd bynnag, ym mis Chwefror eleni, pan oedd y cyfrifon yn dal i fod heb eu cwblhau, ysgrifennais at y Llywydd, yn mynegi fy mhryder ynghylch yr oedi. Roedd y pwyllgor yn dod yn fwyfwy pryderus am ei allu i graffu ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion pwysig hyn. Mae'r oedi hwn wedi arwain at fethu terfynau amser statudol ar gyfer adrodd ariannol. Ac o ystyried ein bod yn cyfeirio at gyfrifon Llywodraeth, mae'n bwysig fod y mater hwn a phryderon y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cael eu cofnodi'n gyhoeddus a'u codi yn y Siambr hon i sicrhau bod y Senedd ehangach yn ymwybodol o'r mater. Hoffwn pe bai mwy o'r Aelodau'n deall hynny a phe byddent wedi dod i'r sesiwn fer hon er mwyn elwa ohoni.

Mae adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gyflwyno ei chyfrifon i’r archwilydd cyffredinol i’w harchwilio erbyn 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol ganlynol—h.y. mis Ebrill i fis Mawrth. Yna, mae’n ofynnol i’r archwilydd cyffredinol gyflwyno ei archwiliad ac ardystiad o’r cyfrifon hynny gerbron y Senedd o fewn pedwar mis i dderbyn set archwiliadwy o gyfrifon. Mae hyn yn statudol, ac wedi’i ymgorffori mewn deddfwriaeth, ac eto, dyma ni ym mis Mehefin, heb unrhyw arwydd clir o hyd ynglŷn â pha bryd y caiff y cyfrifon hyn eu cyflwyno.

Diben y terfynau amser hyn yw sicrhau y gall atebolrwydd cyhoeddus, craffu ac adrodd i Drysorlys Ei Mawrhydi ddigwydd o fewn cyfnod rhesymol o amser. Mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus swyddogaeth ddifrifol i'w chyflawni yn craffu ar y cyfrifon hyn gan eu bod yn adrodd ar y swm mwyaf o wariant cyhoeddus gan unrhyw gorff cyhoeddus yng Nghymru. Ac mae amseriad ein gwaith craffu wedi'i gynllunio i sicrhau bod ein gwaith yn berthnasol ac yn gallu dylanwadu ar yr adroddiadau ariannol yn y flwyddyn ganlynol. Mae'r oedi cyn cymeradwyo'r cyfrifon hyn wedi tanseilio ein gallu i wneud hynny.

Serch hynny, er bod y terfyn amser statudol hwn bellach wedi’i fethu, nid oes unrhyw fesurau diogelu yn y broses sy’n atal hyn, ac mae hynny felly'n llesteirio'r gwaith craffu. Rydym yn pryderu ynghylch y diffyg camau unioni yn sgil methu terfynau amser, ac nid ydym am i hyn fod yn gynsail ar gyfer y dyfodol. Mewn gwirionedd, nid yw’r prosesau sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru yn gymaradwy â darpariaethau a nodir mewn deddfau eraill ar gyfer cyfrifon eraill yn y sector cyhoeddus.

Er enghraifft, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn nodi bod yn rhaid i gorff llais y dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyflwyno ei gyfrifon i Lywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru erbyn 31 Awst fan bellaf. Fodd bynnag, os na all yr archwilydd cyffredinol osod y cyfrifon hyn gerbron y Senedd am nad yw’n rhesymol yn ymarferol i wneud hynny, y gwahaniaeth allweddol yw bod rhaid gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw, ac mae’n rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys y rhesymau pam.

Mae’r ddeddf hon, fel Deddf Llywodraeth Cymru, yn cydnabod na ellir cydymffurfio â’r amserlen o bedwar mis bob amser, ond os bydd sefyllfa o’r fath yn codi, fod yn rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi gwybod i’r Senedd am y sefyllfa yn gyhoeddus ac yn ffurfiol. Bydd y pwyllgor yn edrych yn agosach ar y prosesau hyn maes o law, i weld a ellir gwneud newidiadau er mwyn cysoni adroddiadau ariannol Llywodraeth Cymru â’r disgwyliadau a osodir ar gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Hoffwn gofnodi hefyd fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus o ddifrif ynghylch y materion hyn, ac na fyddwn yn rhuthro nac yn ildio i bwysau i leihau ein gwaith craffu ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyhoeddi.

Rhagwelwn y bydd y rhain yn gyfres fwy cymhleth o gyfrifon, gyda nifer o faterion pwysig, y bydd angen amser arnom i graffu’n fanwl arnynt yn gyhoeddus. Rydym yn ymwybodol iawn y bydd y cyfrifon hyn yn cynnwys gwariant cyhoeddus sylweddol yn sgil y pandemig, sy’n fater o ddiddordeb i’r cyhoedd. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn, yn cyflawni ein rôl yn y cylch atebolrwydd ariannol, ac yn ennyn hyder y cyhoedd ein bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ei gwariant. Gobeithiwn y gallwn edrych ymlaen at allu gwneud y gwaith hwn yn nhymor yr hydref yn unol â hynny. Diolch yn fawr.