Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 29 Mehefin 2022.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch, yn gyntaf, i'r pwyllgor, Russell George y cadeirydd, a chyfranogwyr am eu gwaith yn cyflwyno'r adroddiad hwn? Mae'n adroddiad pwysig iawn. Diolch yn fawr iawn. Ac a gaf fi groesawu rhaglen gofal wedi'i gynllunio y Llywodraeth a'r ymateb i'r adroddiad hefyd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni?
Yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw'n benodol at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, o fewn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Deallaf fod Powys yn eithriad i restrau aros cynyddol ac mae wedi llwyddo i dorri oddeutu 5,000 o unigolion sy'n aros am driniaeth oddi ar yr ôl-groniad yn ei restrau aros dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond mae hynny'n gwrthgyferbynnu â byrddau iechyd eraill, lle mae eu rhestrau aros, ar gyfartaledd, tua 26 gwaith yn hirach na rhai Powys. Felly, hoffwn ganmol Powys yn hynny o beth.
Ym mis Mehefin 2022, roedd gennym nifer uwch nag erioed o dros 700,000 o bobl yng Nghymru yn aros am ddiagnosis neu driniaeth, ac fel y gwyddoch, Weinidog, golyga hyn fod oddeutu un o bob pump o bobl yn aros am driniaeth. Nid yw'n cynnwys yr hyn y dyfalwn ei fod tua 550,000 o atgyfeiriadau a allai fod ar goll a nodwyd mewn adroddiad archwilio yng Nghymru sy'n debygol o ddod i'r amlwg yn ystod y misoedd nesaf, ac wrth gwrs, rydym yn croesawu hynny, ac rydym am annog y bobl hynny i roi gwybod.
Yn ôl yr adroddiad hwn, nid yw'r rhestr aros bresennol wedi cyrraedd ei hanterth eto, ac ni fydd ond yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig erbyn 2029 os cyflawnir amcanion y Llywodraeth. Rwy'n pryderu nad yw'r pum uchelgais a amlinellir yn y rhaglen yn adlewyrchu'r pwysau gwirioneddol ar gapasiti a'r cyfyngiadau ar gyllid cyfalaf y GIG, ond hoffwn bwysleisio ein bod yn gwybod, o adroddiad y pwyllgor, nad yw'n ymwneud â chyllid yn unig, ac nad yw'n ymwneud ag arian yn unig. Gyda'r cynnydd a ragwelir yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth, a gweithlu sydd eisoes wedi blino'n lân, a'n GIG gorlawn, a gaf fi ofyn i chi pa gamau sydd eisoes wedi'u cymryd ac a fydd yn cael eu cymryd yn y pum mis nesaf i gyflawni'r amcan hwn?
Mater arall yr hoffwn ei godi, y gwn ei fod eisoes wedi'i godi, yw iechyd meddwl gofalwyr. Fel y dangosodd adroddiad y pwyllgor, mae'r amseroedd aros hir yn effeithio'n ddifrifol ar gyflyrau iechyd a diogelwch ariannol cleifion a gofalwyr. Rwy'n llwyr gefnogi cynllun cydnerthedd ariannol y Llywodraeth ar gyfer gofalwyr, a amlinellwyd mewn ymateb i'r adroddiad, ond rwy'n poeni nad yw gofalwyr wedi cael eu hystyried yn llawn gan y Llywodraeth. Mae'n rhaid i ofalwyr wynebu'r ansicrwydd ynglŷn ag a fydd eu hanwyliaid yn cael y driniaeth sydd ei hangen ar frys yn ddigon buan. Nid yw'r amser aros disgwyliedig ar gyfer y driniaeth yn cael ei gyfleu iddynt, nac unrhyw gymorth sydd ar gael iddynt, sy'n eu gadael yn teimlo'n ynysig ac ar eu pen eu hunain, rhywbeth y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan, ato hefyd. Maent yn aml yn cael eu gorfodi i adael eu cyflogaeth neu eu haddysg, a dod yn weithlu sydd bron wedi'i broffesiynoli, gan roi meddyginiaeth, efallai heb unrhyw gymorth meddygol ac iechyd rheolaidd. Fel y mae Mind Cymru yn pwysleisio, mae'n hanfodol nad yw'r Llywodraeth yn gadael ein gofalwyr heb fynediad cyson at gymorth clinigol, emosiynol a llesiant drwy gydol y cyfnod hwn.
Felly, i grynhoi, tybed a wnewch chi ymateb i'r canlynol. Y tu hwnt i'r cymorth ariannol ychwanegol, sut y byddwch yn sicrhau bod digon o gymorth i ofalwyr 'aros yn iach' hefyd? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i nodi unigolion y dylid eu cydnabod yn ffurfiol fel gofalwyr, fel eu bod yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo? Mae'r nod na fydd neb yn aros yn hwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol erbyn diwedd 2022 yn ofyn mawr, a tybed sut y mae'r Llywodraeth wedi symud ymlaen tuag at y targed hwn. Ac yn olaf, Weinidog, mae GIG Cymru, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi gorfod dychwelyd bron i £13 miliwn i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth. Pa newidiadau sy'n cael eu gwneud o ran math a chwmpas y cyllid sy'n cael ei ddarparu i fyrddau iechyd er mwyn sicrhau bod ganddynt yr adnoddau cywir i gyflawni'r cynllun? Diolch yn fawr iawn.