7. Dadl ar ddeiseb P-06-1277, 'Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 4:40, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch fod gennym gyfle arall i godi mater cadw adran damweiniau ac achosion brys sydd ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn.

A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy dalu teyrnged i ymdrechion pobl leol sir Benfro, sydd wedi cydgysylltu a threfnu’r ddeiseb ddiweddaraf hon, sydd wedi arwain at gyflwyno’r pwnc ar lawr y Senedd unwaith eto? Ar sawl ffurf, mae’r ymgyrch leol wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd ac wedi llwyddo i gydgysylltu cymorth i gynnal gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg. Rydym wedi gweld deisebau’n cael eu llofnodi, ralïau’n cael eu cynnal y tu allan i’r Siambr hon, a gorymdeithiau drwy drefi sir Benfro, ac rwyf wedi mynychu pob un ohonynt, a'r cyfan er mwyn tynnu sylw at y bygythiadau i wasanaethau iechyd lleol. Rwy’n falch o weld sawl ymgyrchydd yn yr oriel gyhoeddus y prynhawn yma. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r staff, sydd, er gwaethaf degawd o fygythiad i israddio a chael gwared ar wasanaethau, yn parhau i gyflawni eu rolau gyda phroffesiynoldeb llwyr. A byddai’n esgeulus imi beidio â diolch i Paul Davies, fy nghymydog etholaethol a ffrind da, am bopeth y mae wedi’i wneud ar y mater hwn. Mae’r Aelod wedi dadlau'n wiw dros yr ysbyty hwn.

Mewn bron i 14 mis yn Aelod o'r lle hwn, rhaid imi ddweud nad oes wythnos wedi mynd heibio heb i etholwr gysylltu â mi i nodi eu pryderon ynghylch cael gwared ar adran damweiniau ac achosion brys o'u hysbyty lleol. Er nad yw ysbyty Llwynhelyg wedi'i leoli yn fy etholaeth i, mae llawer o fy etholwyr yn gleifion yno, ac yn briodol iawn, mae'n uchel iawn ei barch yn eu plith. Ond er gwaethaf yr holl ystrydebau ac ymgyrchoedd, rydym yn dal yn yr un sefyllfa ag y buom ynddi dros y degawd diwethaf, gyda dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili dan fygythiad. Mae ysbyty Llwynhelyg, gadewch inni gofio, wedi colli nifer o wasanaethau dros y blynyddoedd, diolch i benderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Lafur hon. Ond er eglurder, mae'n werth imi ailadrodd eto fod dadl heddiw yn canolbwyntio ar gadw'r adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Llwynhelyg yn unig. Rwy'n annog y Gweinidog, yn ei hymateb, i beidio â syrthio i’r fagl o siarad am gynlluniau ehangach ar gyfer ad-drefnu, gan nad yw hynny’n gwneud unrhyw beth i leihau pryderon pobl leol sy’n ymwneud yn benodol â darpariaeth gwasanaethau damweiniau ac achosion brys.

Nid wyf am ailadrodd yr holl ddadleuon ynghylch pwysigrwydd gwasanaethau hanfodol yng ngorllewin Cymru, yn enwedig i’r bobl leol sy’n dibynnu ar wasanaeth damweiniau ac achosion brys cwbl weithredol o ansawdd da yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, ond mae'n rhaid inni hefyd ystyried y mewnlifiad o ymwelwyr sy’n golygu bod poblogaeth gorllewin Cymru yn chwyddo dros fisoedd yr haf, wrth iddynt fwynhau holl atyniadau gwych ac arfordir a chefn gwlad y sir. Mae rhai cymunedau yn sir Benfro o leiaf 45 munud oddi wrth ysbyty Llwynhelyg yn barod, a chyda safleoedd posibl ar gyfer ysbyty newydd yn cael eu cyhoeddi o’r diwedd, nid oes unrhyw obaith y bydd y gwasanaethau hyn yn dod yn nes. Ond gadewch imi fynd â chi'n ôl at y tactegau y mae'r rheini sy'n dymuno cael gwared ar yr adran damweiniau ac achosion brys yn eu defnyddio.

Bydd sefydliadau yn aml yn anfon papur briffio ataf cyn dadleuon. Dychmygwch fy syndod pan gyrhaeddodd papur briffio bwrdd Hywel Dda fy mewnflwch yn gynharach yr wythnos hon. Bu’n rhaid imi ei ddarllen fwy nag unwaith i sicrhau bod yr wybodaeth yr oeddent yn ei rhoi yn berthnasol i’r ddadl hon, gan eu bod yn anwybyddu teitl y ddeiseb ac yn mynd i’r afael â mater cau adran damweiniau ac achosion brys mewn ffordd sydd, pa ryfedd, yn peri i bobl leol boeni a phryderu am ddyfodol eu hadran damweiniau ac achosion brys. Yn hytrach, roedd y briff yn canolbwyntio ar ad-drefnu'r bwrdd iechyd yn fyw cyffredinol, gan werthu’r freuddwyd o uwchysbyty newydd ar gyfer gorllewin Cymru—yr un freuddwyd ag y maent wedi bod yn ei gwerthu am y degawd diwethaf, ac na fydd, yn eu geiriau hwy, yn cael ei ‘gwireddu’ tan ddiwedd y degawd hwn ar y cynharaf.

Weinidog, rwy’n derbyn yn llwyr fod angen i’r ffordd y darperir gofal iechyd newid, ond rydym bob amser yn mynd i fod angen adran damweiniau ac achosion brys. Bydd cleifion bob amser angen gofal brys yn agos i'w cartrefi, o drawiad ar y galon a strôc i dorri coesau ac anafiadau i'r pen. Mae symud y gwasanaeth hwnnw ymhellach oddi wrth gymunedau yn ffôl a dweud y lleiaf, ac yn ddideimlad ar y gwaethaf. Os bydd addewidion yn cael eu cadw, ac os bydd yr ysbyty’n parhau i fod ar safle Llwynhelyg pan fydd yr ysbyty newydd wedi’i adeiladu, pam na all gynnwys adran damweiniau ac achosion brys? Pam na all yr ysbyty newydd a gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Llwynhelyg gydfodoli? Mae’r pum safle a ffefrir ar gyfer yr ysbyty newydd wedi'u lleoli ar hyd darn 12 milltir o’r A40, gyda sawl rhan ohoni'n ffordd unffrwd, ac yn cael traffig trwm a llawer o ddamweiniau, ac nid wyf wedi crybwyll y pwysau sydd ar ein gwasanaethau ambiwlans ar hyn o bryd.

Weinidog, gallwn fynd ymlaen, ond ers gormod o amser ac yn rhy aml, caiff gorllewin Cymru ei anghofio ym mholisïau eich Llywodraeth. Mae pobl leol yn haeddu gwell, ac maent yn teimlo nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae gennyf arolwg barn ar fy ngwefan a chyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi llais i bobl leol, ffordd i leisio eu barn ar ble yr hoffent weld ysbyty newydd yn cael ei leoli. Er nad yw’n hynod wyddonol, yn llai felly na’r map gwres y soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau amdano yn gynharach, mae’n glir: mae 82 y cant wedi pleidleisio i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys ar y safle presennol.