Cwestiynau i Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Part of QNR – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

Mae sicrhau bod canol ein trefi yn llewyrchus yn flaenoriaeth o fewn ein Rhaglen Lywodraethu ac mae’r mater wedi’i drafod gan y Cabinet. Rydw i a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ymweld â Bangor dros y misoedd diwethaf er mwyn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol i drafod cynlluniau adfywio’r ddinas.