Cyflog Teg i Weithwyr yn y Trydydd Sector

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:31, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Un o’r problemau y mae’r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw ariannu setliadau cyflogau teg sy’n adlewyrchu’r cynnydd mewn costau byw. Mae hyn yn arbennig o wir gyda sefydliadau sydd â chontractau gyda sawl darparwr sector cyhoeddus sy'n gwneud pethau gwahanol o ran cynyddu contractau. Mae gan un sefydliad rwy'n ymwybodol ohono gontractau ar draws llawer o awdurdodau lleol, gydag oddeutu traean yn cynyddu contractau, traean yn gwrthod a thraean eto i benderfynu. Mae hyn yn rhoi'r sefydliad mewn sefyllfa amhosibl o orfod bod yn deg â'r holl staff heb allu ariannu cyflogau teg. A wnaiff Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o sicrhau polisi cyson ar gynyddu contractau a sicrhau y gall y sector barhau i gadw ei staff gwerthfawr a helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?