Deddf Hawliau Dynol 1998

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:49, 6 Gorffennaf 2022

Diolch am hwnna. Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi rhoi ymateb i'r ymgynghoriad yn nodi gwrthwynebiad, ac rwy'n cytuno gyda phopeth rydych chi wedi dweud yn yr ymgynghoriad. Mae'n anghrediniol fod y Llywodraeth fwyaf llwgr erioed yn credu bod ganddyn nhw'r hawl foesol i wahaniaethau rhwng y bobl sy'n haeddu cael hawliau dynol a'r rhai sydd ddim. Ond, wrth gwrs, mae'r bobl sydd wir yn credu mewn hawliau dynol yn gwybod mai eu holl bwrpas yw eu bod nhw'n perthyn i bawb yr un fath. Nawr, mae'r Llywodraeth sydd wedi cynnig y newidiadau erchyll yma yn y broses o ddinistrio ei hunan, felly mae'n bosibl, wrth gwrs, y bydd hyn yn newid. Ond mae e hefyd yn bosibl y bydd olynydd y Llywodraeth yna yn parhau â'r cynlluniau, felly mae'n hanfodol cyflwyno Deddf hawliau dynol Gymreig yn gyflym. Dwi'n croesawu'r hyn dŷch wedi gosod mas am hyn. Alla i ofyn ichi a ydych chi'n credu y gallai'r gwaith o baratoi'r ddeddfwriaeth, yn ogystal â'r gwaith mwy cyffredinol o hyrwyddo hawliau dynol a chefnogi mudiadau i'w gweithredu, gael ei hwyluso drwy sefydlu comisiwn hawliau dynol Cymreig, fel sydd yn bodoli yn yr Alban ers 2008?