Cyfarfodydd Hybrid ar Draws Ystâd y Senedd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:14, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Mae'n dda gweld y gwaith sydd wedi bod yn digwydd eisoes, ac sy'n parhau i ddigwydd, ar gynyddu cyfran yr ystafelloedd y gellir eu defnyddio ar ffurf hybrid, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae'n ymddangos y bydd yn rhaid inni ddefnyddio hyn fel ffordd fodern o weithio yn awr, ac yn sicr wrth inni wynebu'r hydref a'r gaeaf. A yw'n realistig disgwyl y gallai'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o'r ystafelloedd pwyllgor a chyfarfod yn y dyfodol tymor byr i ganolig fod yn hybrid? Hefyd, a fyddai staff ar gael er mwyn gwasanaethu'r cyfarfodydd hybrid hynny hefyd?