Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Yn fyr iawn, rydym yn diolch i'r pwyllgor am ei waith. Ni wnaethom ymateb gan na wnaeth y pwyllgor ofyn am un, ond dim ond i ddweud bod Lesley Griffiths a minnau wedi codi'r un mater mewn llawer o gyfarfodydd rhyng-weinidogol, ac yn wir, rydym ni wedi ysgrifennu am y ffordd y mae'r cytundebau fframwaith yn gweithio mewn modd tebyg iawn. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd.