Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor gerbron y Senedd ddoe ac mae'n gwneud 12 o argymhellion. Yn gyntaf oll, mae'r pwyllgor yn pryderu'n fawr am yr effaith y bydd pwysau chwyddiant yn ei chael ar fforddiadwyedd cynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru. O gofio y bydd y pwysau eithriadol hwn yn parhau ac y gallai waethygu, gofynnwn i'r Gweinidog ddarparu asesiad o effaith hyn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Gofynnwn hefyd i'r Gweinidog ystyried cyflwyno'r ail gyllideb atodol y flwyddyn ariannol hon fel y gellir darparu cyllid i feysydd blaenoriaeth cyn gynted â phosibl, os oes angen gweithredu ar frys.
Gan droi at ardaloedd penodol, cyn imi sôn am ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhyfel yn Wcráin, a gaf i achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel a'r ymdrechion anhygoel a wnaed gan awdurdodau lleol, unigolion a gwasanaethau ledled Cymru i sicrhau bod y rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin yn cael lloches a lle diogel i aros? Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn siomedig nad yw'r cyllid a gafodd Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yn ymestyn y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol. Felly, rydym yn annog y Gweinidog i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU cyn gynted â phosibl, fel bod cyllid ar gyfer y gwasanaethau allweddol hynny'n parhau i gael ei ddarparu. Wrth i'r cymorth a ddarperir gyrraedd gwahanol feysydd o fewn y gyllideb, teimlai'r pwyllgor hefyd ei bod yn dod yn fwyfwy anodd deall faint o arian oedd yn cael ei wario mewn meysydd penodol. Dyna pam yr ydym yn gofyn i'r Gweinidog ddarparu dadansoddiad o'r cyllid sydd wedi'i neilltuo i gefnogi ffoaduriaid Wcrainaidd mewn cyllidebau yn y dyfodol.
Ar y mater hwn, cafodd y pwyllgor ei ddychryn gan y diffyg ymgynghori ystyrlon rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y cyfraniadau a wnaed o gyllidebau datganoledig tuag at yr £1 biliwn a ddarparwyd mewn cymorth milwrol i Wcráin. Cytunwn â'r Gweinidog na ddylid gwario cyllidebau datganoledig ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli. Mae hon yn egwyddor sylfaenol, ac mae'r camau hyn yn gynsail beryglus. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog godi'r pryderon hyn gyda chydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU i sicrhau y diogelir cyllidebau datganoledig rhag cael eu defnyddio i ariannu meysydd nad ydynt wedi'u datganoli.
Dirprwy Lywydd, hoffwn droi'n gyflym yn awr at feysydd polisi eraill. Mae'r pwyllgor yn croesawu graddau'r cyllid a roddwyd i'r GIG i gefnogi ei adferiad ar ôl y pandemig, ac yn arbennig i ymdrin ag amseroedd aros a'r rhestr hir o ofal cynlluniedig sydd wedi ymffurfio. Fodd bynnag, mae ar y pwyllgor eisiau mwy o eglurder ynghylch sut y caiff yr arian ei wario. Rydym hefyd yn bryderus o glywed nad oedd nifer o fyrddau iechyd yn gallu defnyddio'r arian ychwanegol a ddyrannwyd. Er bod y pwyllgor yn derbyn yr effaith sylweddol amrywiolyn omicron ar gynllunio'r gwasanaeth iechyd, mae'n destun pryder na wariwyd cyfran fawr o'r dyraniadau hyn. Mae'r pwyllgor hefyd yn pryderu'n fawr am y straen cynyddol ar staff y GIG sydd, yn ôl adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru, wedi blino, yn gwneud gormod ac o dan bwysau. Credwn fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ymdrech i ddatblygu cynllun gweithlu tymor hirach fel y gellir lliniaru'r pwysau hyn ac osgoi sefyllfa lle gallai staff ddiffygio.
O ran prydau ysgol am ddim, rwy'n falch bod y Gweinidog yn cyflwyno'r polisi hwn fel ei fod ar gael i ddisgyblion o fis Medi ymlaen. Wedi dweud hynny, mae'r pwyllgor yn ymwybodol y bydd ysgolion unigol mewn sefyllfaoedd gwahanol iawn o ran a oes ganddynt y seilwaith i weithredu'r fenter hon a'i gwneud yn llwyddiant. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog egluro'r cyllid penodol a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi'r polisi hwn. Fel Cadeirydd, mae arnaf eisiau gweithio gyda phwyllgorau eraill ar faterion lle mae diddordeb cyffredin, a dyna pam, ar y materion penodol hyn, yr wyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fel y gellir parhau i graffu yn y meysydd allweddol hyn.