Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, gall pobl sy'n ei chael yn anodd cael gwaith weithiau ddioddef o broblemau sy'n gysylltiedig â hunanhyder isel, ac mae cael eu gwrthod dro ar ôl tro am swyddi, heb wybod hyd yn oed y rhesymau pam mewn rhai achosion, yn gallu bod mor niweidiol i rai pobl fel eu bod yn rhoi'r gorau i geisio, er eu bod yn aml yn fwy na chymwys i wneud ystod eang o swyddi. Un o'r ffyrdd o oresgyn hunanhyder isel yn y gweithle yw drwy ddefnyddio cynlluniau mentora, gan baru'r rhai sy'n dymuno cael gwaith gyda phobl sy'n gweithio mewn meysydd perthnasol. Gall mentoriaid helpu pobl i wireddu eu potensial llawn, ac maen nhw mewn gwell sefyllfa i allu gwerthuso pam mae eu mentoreion yn ei chael hi'n anodd cael gwaith. Diolch.