Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod eto: os nad yw wedi cael cyfle i'w ddarllen oherwydd ei fod wedi bod yn rhy brysur yn darllen maniffestos pobl sy'n ceisio arwain ei blaid, gallwn roi copi iddo. Mae'n nodi cyfres o ffyrdd fesul blwyddyn i fynd i'r afael ag amseroedd aros yng Nghymru yn dilyn yr un amserlen ag y mae ei blaid wedi'i phennu ar gyfer Lloegr. Dyna yw ein huchelgais a dymunwn y gallem wneud mwy a hynny'n gyflymach.