Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:57, 12 Gorffennaf 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae canlyniadau cyntaf y cyfrifiad wedi cael eu cyhoeddi; ffigurau pennawd hyd yma. Mae'r boblogaeth yn lleihau mewn sawl ardal—Ceredigion yn gweld y cwymp mwyaf o bron i 6 y cant. Mae yna awgrym o boblogaeth yn heneiddio hefyd, sy’n pwysleisio’r angen i ddal gafael ar ein pobl ifanc ni, ac mae hynny’n golygu gwneud iddyn nhw fod eisiau aros yma yng Nghymru. Rŵan, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc edrych ar lawer mwy na chynnig swyddi yn unig, i gynnwys pob agwedd ar anghenion pobl ifanc—tai, amgylchedd, adnoddau, cymunedau llawn bywyd—ac mai dyna sut mae eu hannog nhw i benderfynu byw a ffynnu yma yng Nghymru?