Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Llywydd, nid oeddwn wedi cyfeirio'n fwriadol iawn at gynlluniau'r Aelod dros Ynys Môn ei hun i fod yn rhan o ddraen dawn. Felly—[Chwerthin.] Dim ond i fod yn siŵr; roeddwn i wedi gwneud yn siŵr nad oeddwn i'n gwneud hynny.
Mae busnesau yng Nghymru yn wynebu prisiau ynni uchel iawn, nad ydyn nhw, yn wahanol i filiau domestig, wedi'u capio. Cyfarfu Gweinidog yr Economi â chyngor busnes Cymru yn gynharach heddiw i drafod y materion hyn. Rydym yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gymryd camau pellach ar brisiau ynni domestig a busnes.