Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Diolch. Mae ein rhaglen lywodraethu ni a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ymrwymo i wneud diwygiadau i'r dreth gyngor i'w gwneud hi'n decach ac yn fwy blaengar. Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddais i y byddwn i'n ymgynghori eleni ar becyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i fod yn fan cychwyn ar daith tuag at gyflawni'r nodau hynny. Fe ddaeth ein gwaith cyhoeddedig ni'r llynedd i'r casgliad, ar gyfer cyflawni'r nodau hynny yn y tymor byrrach, y byddai angen i ni ystyried ailbrisio i ganiatáu i ni newid y bandiau a'r cyfraddau treth. Fe dynnodd hynny sylw hefyd at yr angen i ni wella ein cynllun cymorth cenedlaethol ni ac archwilio'r fframwaith ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, fe fyddwn ni'n parhau i weithio ar ffyrdd amgen o godi trethi lleol a allai rannu'r baich gyda mwy o degwch i'r dyfodol, fel treth leol ar werth tir.
Rwy'n mynd ati'n raddol i gynllunio system newydd oherwydd rwy'n awyddus fod gan bawb y cyfle i gyfrannu at y gwaith hwn. Mae'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei lansio heddiw yn nodi map ffordd. Mae'n cynrychioli cam 1 o sgwrs aml-lwyfan, gan geisio barn mewn ffordd sy'n agored a chydweithredol. Fe fyddaf i'n ystyried popeth a fyddwn ni'n ei ddysgu o'r cam hwn, ac yn gobeithio bod mewn sefyllfa i lansio ymgynghoriad ar gynigion manwl yng ngham 2 y flwyddyn nesaf. Mae'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei lansio heddiw yn anelu at system deg a blaengar sy'n cydbwyso baich y dreth o'r newydd ar aelwydydd, yn ariannu gwasanaethau sydd o fudd i bawb, a bod yn dreth sy'n cysylltu pobl â chymunedau, ac sydd wedi cael ei llunio i gael ei diweddaru yn rheolaidd er mwyn iddi barhau i fod yn deg yn y dyfodol.
Rwyf i wedi gweithio yn agos gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell AS, ar y flaenoriaeth hon a rennir gennym ni. Rwyf i wedi parhau i gwrdd ag arweinwyr llywodraeth leol i gasglu safbwyntiau o bob rhan o Gymru. Rwyf i wedi sefydlu trefniadau llywodraethu, ac rydym ni'n ymgysylltu â phartneriaid sy'n allweddol i gyflawni'r hyn yr oeddem ni'n bwriadu ei gyflawni. Mae'r rhain yn cynnwys ymarferwyr yn yr awdurdodau lleol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Rydym ni wedi parhau i weithio gyda sefydliadau arbenigol uchel eu parch yn y maes hwn, gan gynnwys y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.
Mae yna lawer iawn o bethau cadarnhaol ynglŷn â'r system treth gyngor na ddylem ni golli golwg arnyn nhw. Mae hi wedi sefyll prawf amser ers y 1990au ac mae hi'n cynrychioli democratiaeth leol ar waith. Yn gyffredinol, mae hi'n dreth effeithlon a sefydlog iawn, sy'n codi £2 biliwn yn flynyddol ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol—gwasanaethau na allwn ni wneud hebddyn nhw. Mae ei chostau gweinyddol hi'n isel hefyd, mae trethdalwyr yn ei deall hi'n dda, ac mae ei sail sylfaenol hi, sef gwerth tai, yn gallu bod yn effeithiol wrth ddangos yn fras faint o arian sydd gan bobl o'u cymharu nhw ag eraill. Serch hynny, rwy'n cydnabod nad yw hi'n berffaith. Mae'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn rhoi baich treth cymesur uwch ar bobl sydd â lefelau is o gyfoeth. Fel gŵyr yr Aelodau, mae pob eiddo yng Nghymru sy'n atebol am y dreth gyngor yn cael ei roi mewn un o naw band, yn seiliedig ar werth eiddo ym mis Ebrill 2003. Mae hyn yn golygu bod y dreth wedi dyddio ar ôl bron i 20 mlynedd, ac nid yw'r hyn a dalwn ni'n adlewyrchu ein hamgylchiadau ni erbyn hyn. Mae swm y dreth gyngor a godir am eiddo band I dair gwaith a hanner cymaint â band A, ond fe allai cartrefi yn y band uchaf fod yn werth mwy na naw gwaith cymaint â'r rhai yn y band isaf. Mae'r Llywodraeth hon o'r farn y dylid cynnal ailbrisiad, ac fe ddylem ni anelu at weithredu strwythur newydd ar gyfer y dreth gyngor yn seiliedig ar brisiadau mwy cyfredol. Pe byddem ni'n gwneud felly, mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar wneud hynny o fis Ebrill 2025.
Er bod prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol ers 2003, rwy'n awyddus i egluro nad yw hyn yn golygu y bydd y dreth gyngor yn cynyddu i bawb. Fe fydd y system a fyddwn ni'n ei chynllunio hi'n parhau i fod yn un sy'n gymharol. Mae ymchwil flaenorol yn awgrymu y byddai hyd at 75 y cant o aelwydydd naill ai'n gweld dim effaith neu y bydden nhw'n gweld eu biliau nhw'n gostwng. Rwy'n dymuno bod yn eglur hefyd nad diben ailbrisio yw cynyddu'r cyfanswm a godir oddi wrth y trethdalwyr, ond ar gyfer ailddosbarthu'r baich i sicrhau cyfiawnder a chywirdeb y system. Fe fyddai'r ymarfer hwn yn rhoi cyfle i ychwanegu bandiau at ben uchaf neu at waelod y raddfa, ac fe allai hynny helpu i greu cyfraddau treth sy'n fwy blaengar. Fe fydd yna bwyntiau pellach pan fyddwn ni'n gallu ystyried y ffordd orau o ailgynllunio'r system. O 2025 ymlaen, ac am y tro cyntaf yn hanes y dreth gyngor, rydym ni'n awyddus i gyflwyno ailbrisiadau treigl i osgoi'r afluniadau o ran biliau yr ydym ni'n gwybod y gallan nhw ddigwydd pan gaiff diweddariadau eu gohirio dros flynyddoedd lawer. Rydym ni'n dymuno cyflwyno cylch ailbrisio nid yn unig i roi eglurder i drethdalwyr a chyrff cyflenwi, ond i sicrhau bod baich y dreth gyngor yn cael ei ailddosbarthu gyda thegwch a hynny'n rheolaidd.
Gan symud ymlaen at ein system ni o roi cymorth gyda'r dreth gyngor i aelwydydd ar incwm isel, o heddiw ymlaen byddaf yn gofyn am farn ar wella ein cynllun cenedlaethol ni i leihau'r dreth gyngor. Rwy'n falch ein bod ni wedi parhau i gynnal yr hawliau i ostyngiadau ar gyfer tua 270,000 o aelwydydd sy'n agored i niwed ac ar incwm isel. Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, mae cefnogaeth o'r math hwn hyd yn oed yn fwy allweddol i filoedd o aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd. Ond fe ellid gwella'r nifer sy'n elwa ar y cynllun. Mae'r rheoliadau yn gymhleth, ac rydym ni'n cael ein rhwystro rhag gwneud newidiadau yn ystod y flwyddyn pan fo angen. Wrth i'r broses o gyflwyno graddfeydd credyd cynhwysol ddatblygu, mae hynny'n cymhlethu pethau ymhellach o ran y ffordd y mae pobl yn gwneud cais am gymorth a'r ffordd y caiff maint eu taliadau eu cyfrifo. Rwy'n awyddus i gasglu barn ymarferwyr ymysg eraill ynglŷn â sut y gallwn ni symleiddio neu foderneiddio'r cynllun i'w gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl gael gafael arno.
Elfen allweddol arall o'r ymgynghoriad yw canolbwyntio ar ostyngiadau ac eithriadau'r dreth gyngor. Mae llawer o'r trefniadau presennol wedi bodoli ers 1993. Mae rhai yn helpu i gydnabod amgylchiadau'r cartref a gallu pobl i dalu, ac mae rhai yn gwneud synnwyr ymarferol o safbwynt casglu trethi. Rwy'n awyddus i sicrhau bod ein penderfyniadau ni'n rhai teg ac yn rhai sy'n addas ar gyfer system fodern. Mae angen iddi fod yn hawdd i ymarferwyr ei gweinyddu hi ac yn eglur i bobl ei deall hi. Rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau yn hyn o beth drwy ein hymgynghoriad ni. Mae'r ymgynghoriad y gwnes i ei lansio heddiw yn chwilio am farn o ran llwybr uchelgeisiol tuag at newid. Dyna pam mae angen i'r diwygiadau hyn fod yn rhan o sgwrs genedlaethol, ddinesig gyda phobl Cymru. Fe hoffwn i sicrhau'r Aelodau a'r cyhoedd heddiw, os byddwn ni'n ymgymryd â'r diwygiadau yr ydym ni'n gofyn am farn ynglŷn â nhw, y byddem yn ystyried trefniadau trosiannol a anelir ar gyfer y rhai y gallai fod angen amser arnyn nhw i ymgyfarwyddo ag unrhyw newidiadau.
Yn olaf, rwy'n dymuno bod yn eglur iawn: ni fydd unigolion yn gweld unrhyw newidiadau yn syth i'w biliau nhw o ganlyniad i'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw. Mae llawer iawn o waith gennym ni i'w wneud cyn y gellir cyflwyno diwygiadau. Fe fydd y diwygiadau hyn yn ymrwymiadau sylweddol y bydd angen amser deddfwriaethol arnyn nhw a chefnogaeth gan Aelodau o bob rhan o'r Senedd hon. Rwy'n croesawu'r holl sylwadau ar gam 1 ein hymgynghoriad, ac fe fyddaf i'n rhoi gwybod i'r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf.