4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Warant i Bobl Ifanc — Sicrhau dyfodol gwell i’n pobl ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:52, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Ni allaf roi ffigur i chi ar gyfer eich cwestiwn olaf, Jenny, am nifer y bobl sydd wedi dechrau cwrs ar gyfer rhaglen ôl-osod, ond mae hon yn ddarpariaeth weithredol, ymarferol gennyf i a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, nid pwnc trafod yn unig. Dylai'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio olygu ein bod yn gwella ansawdd y stoc tai, yn ei gwneud yn fwy cynaliadwy ac mewn gwirionedd yn rhoi help llaw i bobl tuag at yrfa a fydd yn fwy defnyddiol wrth i ni barhau i'r dyfodol ac, a dweud y gwir, yn fwy a mwy disgwyliedig. Fe wyddoch chi fod stoc tai'r dyfodol wedi'i hadeiladu i raddau helaeth. Byddwn yn parhau i adeiladu tai newydd, ond mewn gwirionedd, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwella'r stoc o dai sydd gennym. Mae hynny'n rhywbeth a gaiff ei ystyried yn fwriadol yn y cynllun sgiliau sero net yr wyf i fod i'w gyflwyno yn yr hydref, a bydd digon o heriau, o fewn y Llywodraeth yn ogystal â'r tu allan, ynghylch sut y bydd hynny'n edrych. Oherwydd, fel y dywedais i, mae rheidrwydd economaidd gwirioneddol yn ogystal ag ystod eang o bethau sy'n mynd ar draws y rhaglen lywodraethu, fel y gallwch ddisgwyl i fwy nag un Gweinidog ddangos diddordeb. Rwy'n ffyddiog y byddaf yn parhau i wynebu cwestiynau gennych chi, yn y Siambr a'r tu allan iddi, am y cynnydd ymarferol yr ydym yn ei wneud, ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd y materion.