Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Diolch, Llywydd. I gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth, gobeithio, wrth bleidleisio dros y rhain. Rwyf i’n siomedig iawn, ond nid yn synnu, nad yw'r Torïaid yn gweld yn dda cefnogi gwelliannau a gynlluniwyd i ddiogelu hawliau tenantiaid—dim syndod yn y fan yna, mewn gwirionedd. Er ei bod yn siomedig na allwn gael consensws ar hyn.
Llywydd, rydym ni nawr bron iawn yno o ran gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi. Cyn bo hir, byddaf yn gwneud tri Dangosydd Perfformiad gweithredu pellach, sydd, unwaith eto, yn dechnegol eu natur, ac sy'n cael eu gwneud drwy weithdrefn negyddol y Senedd, felly ni fyddant yn destun dadl yn y Senedd, a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig pellach yn esbonio diben ac effaith y rhain.
Fel y soniais i yn gynharach, byddaf hefyd yn trosglwyddo'r OS diwygiadau canlyniadol cyn bo hir gyda'r cywiriadau angenrheidiol a wnaed i'r offeryn hwnnw, yn ddiweddarach yr wythnos hon gobeithio, fel y gallwn drafod yr OS diwethaf hwnnw ym mis Medi. A dim ond cadarnhau na fydd unrhyw effaith ar y dyddiad gweithredu o ganlyniad i dynnu'r rheoliadau diwygiadau canlyniadol yn ôl, ac nid oes unrhyw effaith ychwaith ar y tri sydd yma heddiw, oherwydd eu bod yn Offerynnau Statudol annibynnol sy'n gweithredu gwahanol rannau o'r Ddeddf rhentu cartrefi.
Ac yna, dim ond i fynd i'r afael â rhai o'r materion mae Aelodau wedi'u codi'n benodol ar yr Offerynnau Stadudol hyn: mae rheoliadau tenantiaeth cymdeithasau tai yn ymwneud ag is-set gymharol fach o denantiaethau, ac mae'r rheoliadau'n ymwneud â chadw'r trefniadau presennol, Janet, ac nid â'u newid. Byddwn ni wedi meddwl y byddech chi’n croesawu hynny, mewn gwirionedd. Mae'r diwygiadau penodol hyn yn ymwneud â chadw'r trefniadau presennol, a pheidio â bod â'r Ddeddf rhentu cartrefi yn amharu ar y trefniadau presennol hynny.
O ran hysbysiadau chwe mis, ein hegwyddor yw y dylai rhywun nad yw ar fai gael o leiaf chwe mis o rybudd o feddiant. Mae Atodlen 8A yn nodi rhai eithriadau cyfyngedig, er enghraifft, pan fo meddiannaeth gwasanaeth at ddibenion cyflogaeth yn unig.
O ran landlordiaid preifat sy'n bygwth gadael y sector, mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei godi gyda mi bob tro y byddwn yn trafod tai. Nid yw'n waeth yma nag y mae yn unman arall. Yn ddiddorol, mae cyfryngau'r DU yn adrodd am ymadawiad tebyg a ragwelir o landlordiaid preifat yn Lloegr o ganlyniad i'r cynnydd ym mhrisiau tai yno, er, wrth gwrs, yn Lloegr mae'n amhosibl gwybod, oherwydd nid oes ganddyn nhw yr hyn sy'n cyfateb i Rhentu Doeth Cymru mewn gwirionedd. Ac felly, rydym ni mewn sefyllfa well yma, oherwydd mae gennym ni gysylltiad â'n holl landlordiaid, a gwyddom ble maen nhw.
O ran y rhanddeiliaid rydym ni wedi ymgysylltu â nhw, maen nhw’n cynnwys y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Genedlaethol, Propertymark a Chartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cynrychioli cymdeithasau. Mae fy swyddogion yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda'r cyrff hynny, ac yn amlwg, mae NRLA a Propertymark yn y sector rhentu preifat. O ran y pwynt ymgynghori, mae'r rheoliadau'n canolbwyntio'n bennaf ar gynnal a diogelu hawliau presennol, felly mae'r ymgynghoriad ar y Ddeddf ehangach.
Nid yw data Rhentu Doeth Cymru yn dangos bod landlordiaid yn gadael y farchnad mewn niferoedd sylweddol mewn gwirionedd. Mae gostyngiad bach, ond nid yw'n fwy na'r hyn a ragwelwyd gan Rhentu Doeth Cymru yr adeg hon o'r flwyddyn. Maen nhw’n credu ei fod yn ymwneud â rhai landlordiaid yn hwyr yn cofrestru, ac yn y blaen. Mae gostyngiadau mwy sylweddol mewn ychydig o fannau poblogaidd i dwristiaid, ond ni allwn fod yn siŵr iawn a ydyn nhw wedi troi at osodiadau gwyliau tymor byr, felly yn amlwg rydyn ni’n cadw llygad barcud ar hynny.
Roedd cyfraniad Mabon yn eang iawn am yr argyfwng tai yn fwy cyffredinol, yn hytrach nag ar yr OS hyn yn benodol, ac yn amlwg, holl bwynt y Ddeddf rhentu cartrefi yw mynd i'r afael â rhai o'r materion yno. Wrth gwrs, mae gennym ni darged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i ragweld y broblem o ran y cyflenwad a'r galw. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r mater ffosffad a bydd uwchgynhadledd ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yn yr haf i weld a allwn ni ddod i gyfaddawd ar draws yr holl faterion anodd iawn sy'n effeithio ar hynny. Ond nid yw'r rheini'n benodol i'r OS hyn, Llywydd, dim ond pwyntiau mwy cyffredinol ydyn nhw.
Wrth ddirwyn hyn i ben, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau. Maen nhw’n dechnegol eu natur i raddau helaeth. Fel y dywedais i, byddaf yn gwneud yr OS gweithredu pellach cyn bo hir, sef y trafodion cychwyn, ac felly nid effeithir ar weithredu'r Ddeddf ar 1 Rhagfyr. Diolch.