11. Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:50, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn darparu

'Ni fydd yn gyfreithlon i berson yrru cerbyd modur ar ffordd gyfyngedig yn gyflymach na 30 milltir yr awr.'

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 82 ac 84(3) o'r Ddeddf,

'mae ffordd yn ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o'r Ddeddf hon os (a) yng Nghymru a Lloegr, darperir system o oleuadau stryd wedi'u dodrefnu arni drwy lampau a osodir heb fod yn fwy na 200 llath ar wahân.'

Mae adran 81(2) o'r Ddeddf yn galluogi'r awdurdod cenedlaethol, sef Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru, yn unol ag adran 142(1) o'r Ddeddf, drwy Orchymyn, i gynyddu neu ostwng cyfradd y cyflymder a bennir gan adran 81(1), naill ai fel y'i deddfwyd yn wreiddiol neu fel y'i hamrywiwyd o dan yr is-adran honno. Mae adran 81(3)(aa) o'r Ddeddf yn darparu bod Gorchymyn o'r fath,

'os caiff ei wneud gan Weinidogion Cymru, i'w wneud drwy offeryn statudol a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru.'

Cyn i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn o dan adran 81(2) o'r Ddeddf, mae adran 81(5) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol, sydd wedi'i wneud. Pan ddaw'r Gorchymyn i rym ar 17 Medi 2023, fel y bwriadwyd, bydd y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yn gostwng o 30 mya i 20 mya ar gyfer Cymru. Nid yw darpariaethau'r Ddeddf yn cael eu diwygio fel arall gan y Gorchymyn.

Felly, bydd yr awdurdod traffig ar gyfer ein priffordd, Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chefnffyrdd a ffyrdd arbennig a'r cyngor sir neu fwrdeistref sirol perthnasol mewn perthynas â ffyrdd eraill, yn cadw'r pŵer o dan adran 82(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i gyfarwyddo

'y bydd ffordd sy'n ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o'r Ddeddf hon yn peidio â bod yn ffordd gyfyngedig at y dibenion hynny'  gyda'r canlyniad na fyddai terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yn berthnasol i ffordd o'r fath. Yn ogystal â hyn, er bod Gorchymyn o dan adran 81(a) o'r Ddeddf sy'n gosod terfyn cyflymder ar ffordd mewn grym, ni fydd y ffordd honno'n ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o'r Ddeddf, sy'n golygu y byddai'r terfyn cyflymder a osodir gan y Gorchymyn hwnnw yn gymwys o dan unrhyw amgylchiadau o'r fath. Yn amodol ar y darpariaethau hyn, bydd y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffordd gyfyngedig yng Nghymru yn gostwng o 30 mya i 20 mya.

Mae'r Gorchymyn yn ceisio mynd i'r afael â materion diogelwch ar y ffyrdd ac effeithiau cerbydau a ffyrdd ar yr amgylchedd a chymunedau. Mae'n ceisio gwella diogelwch ar y ffyrdd, annog newid i ddulliau teithio mwy llesol, a gwella'r economi a'r amgylchedd lleol yng nghymunedau Cymru. Bwriad yr oedi cyn i'r Gorchymyn ddod i rym yw galluogi awdurdodau traffig i baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd, rhoi cyhoeddusrwydd i'r cynigion a galluogi gwneud diwygiadau priodol i ddeddfwriaeth arwyddion traffig. Mae'r cynnig i gyflwyno terfyn cyflymder arafach hefyd yn cyd-fynd â nodau llesiant Cymru a blaenoriaethau strategol eraill, megis gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon.

Mae tystiolaeth lethol bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac anafiadau llai difrifol, a thystiolaeth gyson bod nifer yr anafusion yn cael eu lleihau pan gyflwynir terfynau 20 mya. Ar gyfartaledd, mae 80 o bobl y flwyddyn yn marw ar ffyrdd Cymru, 80 o deuluoedd na fydd eu bywydau byth yr un fath eto. Mae ystadegau damweiniau 2021 newydd gael eu cyhoeddi, ac yn ystod y flwyddyn hon, digwyddodd dros hanner yr holl ddamweiniau ffordd—53 y cant—ar ffyrdd 30 mya. Mae cerddwyr bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd ar 30 mya o'i gymharu ag 20 mya, a lladdwyd 52 y cant o'r holl anafusion ar ffyrdd 30 mya yn ystod 2019. Symud i—[Torri ar draws.] Ie wrth gwrs.