Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Rwy'n croesawu'r cynlluniau hyn. Bydd cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 20 mya ar y ffyrdd dŷn ni'n sôn amdanynt yn gwneud ein cymunedau'n saffach ac yn llefydd mwy glân ac iach i fyw iddynt. Bydd hyn hefyd yn achub bywydau. Mae pob bywyd sy'n cael ei achub yn rhywbeth pwysicach nag unrhyw beth dŷn ni'n gallu mesur neu werthuso. Mae osgoi unrhyw brofedigaeth yn beth mawr a pheth da.
Nawr, bydd y mesurau hyn hefyd yn ein helpu ni i leihau dominyddiaeth ceir ar ein bywydau a'n cymunedau. Bydd ein strydoedd yn fwy deniadol, bydd yr awyrgylch yn saffach ar gyfer beiciau a phobl sy'n cerdded, heb sôn am bobl gydag anableddau a phlant ifanc. A bydd y mesurau hyn yn siŵr o helpu ein hamgylchfyd. Bydd llai o danwydd yn cael ei ddefnyddio, bydd llai o dagfeydd ar y strydoedd, bydd hyn hefyd yn gwella lefelau o lygredd aer a llygredd sŵn.
Wedi dweud hyn, mae rhai pryderon wedi cael eu crybwyll am y ffaith bod blanket approach yn cael ei ddefnyddio. Mae yna lefydd sydd â chyfyngiadau cyflymder o 30 mya ar hyn o bryd, sydd ddim yn llefydd preswyl, fel heolydd sy'n cysylltu stadau tai neu lefydd ar gyrion pentrefi a threfi. Buaswn i'n hoffi gwybod mwy am yr eithriadau all gael eu rhoi ar gyfer rhesymau teilwng a hefyd am yr adnoddau fydd ar gael i greu yr eithriadau yna, wrth gadw'n agos at yr egwyddor yma o leihau cyflymderau yn y llefydd lle mae pobl yn byw a phlant yn chwarae. Mae rhai cymunedau sy'n byw ar trunk roads yn poeni na fyddan nhw'n cael eu dal o dan yr un warchodaeth yma, fel y rhai ar hyd yr A470 a'r A487. Gweinidog, maen nhw angen yr un lefel o ddiogelwch. Mae hyn yn wir dros Gymru gyfan. A fyddech chi'n gallu rhoi gwybodaeth i ni yn ymateb i'r pryder hwn, os gwelwch yn dda?
Nawr, dwi'n gwybod bod yr Institute for Welsh Affairs yn cynnig y bydd y cyfyngiadau newydd, fel dŷn ni wedi clywed yn barod, yn lleihau anghyfartaleddau rhanbarthol ac yn gwella cynhwysiad neu inclusion mewn cymunedau. Allwch chi roi mwy o wybodaeth i ni am hyn, plis? Dwi wedi clywed gan etholwyr ym Mynwy, lle mae'r rheolau newydd yma wedi bod mewn lle ers peth amser, a buaswn i'n gwybod os gall gwersi gael eu dysgu o'r pilot. Mae rhai gyrrwyr yn dal i ddod i arfer â'r terfyn newydd; ydy e'n bosibl i amser fod mewn lle cyn bydd cosb yn cael ei gyflwyno er mwyn helpu pobl i ddod i'r arfer â hyn? Ydy e'n bosibl i arwyddion fod yn glir? Mae rhai llefydd ym Mynwy lle mae'r arwyddion yn gwrthddweud ei gilydd; ar un heol, mae yna rai arwyddion yn dweud 20 mya, rhai eraill yn dweud 30 mya o hyd.
Ac yn olaf, Gweinidog, pan dŷch chi'n ymateb, allech chi ddweud pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i annog pobl gyffredin i ddeall pam mae'r newid yma yn cael ei gyflwyno? Dwi'n gwybod eich bod chi wedi sôn, pan oeddech chi'n siarad yn gynharach am behaviour change, am ba mor bwysig ydy hwnna, fel bod pobl yn teimlo bod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd er eu mwyn nhw, a ddim jest yn rhywbeth sy'n digwydd iddyn nhw. So, byddwn i'n rili gwerthfawrogi clywed mwy gennych chi am hwnna. Fel dwi'n dweud, rhai pryderon, ond yn gyffredinol, wrth gwrs, dŷn ni'n croesawu hyn yn fawr. Diolch yn fawr iawn.