13. Dadl Fer: Pleidleisio yn 16 oed: Rhoi'r offer i bobl ifanc ddeall y byd y maent yn byw ynddo, a sut i'w newid, drwy addysg wleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:52 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 6:52, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Mae darparu'r arfau i'n pobl ifanc sylweddoli beth y mae'n ei olygu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd yn rhan sylfaenol o addysg ddinesig. Mae'n cynnwys addysgu am ddemocratiaeth, ein cymdeithas a sut y gall pawb ohonom gymryd rhan, ac mae hefyd yn ymwneud â grymuso a rhyddfreinio.

Rwy'n gadarn fy nghefnogaeth i alluogi ein pobl ifanc i ddod yn gyfranogwyr gweithredol o fewn y broses ddemocrataidd, o gofrestru i bleidleisio i gymryd rhan mewn etholiadau a thu hwnt. Rwy'n falch ein bod wedi ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 i 17 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol. Mae hyn yn rhoi llais i bobl iau yng Nghymru ynglŷn â'r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg, ac mae'n sylfaen gadarn ar gyfer adeiladu democratiaeth gyfranogol. Mae fy mhlaid fy hun wedi ymrwymo i bleidleisiau yn 16 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU a phob etholiad arall a gadwyd yn ôl hefyd, a gobeithiwn weld hynny yn y dyfodol agos.

Rydym am helpu ein pobl ifanc i deimlo'n hyderus pan fyddant yn ymweld â gorsaf bleidleisio i fwrw eu pleidlais. Cyn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol, buom yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gefnogi ein pobl ifanc 16 i 17 oed i gofrestru i bleidleisio. Drwy ymgysylltu drwy ddigwyddiadau cymunedol, cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol ac ymweliadau ag ysgolion, llwyddodd awdurdodau lleol i gynyddu canran y bobl ifanc 16 i 17 oed a gofrestrodd i bleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar.

Gwnaethom hefyd ariannu nifer o sefydliadau trydydd sector i estyn allan ac ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch pwysigrwydd cofrestru i bleidleisio drwy eu rhwydweithiau presennol. Mae'r sefydliadau hyn wedi datblygu a chyflwyno prosiectau eang, gan ddefnyddio cynnwys creadigol ar gyfryngau cymdeithasol, gweminarau ar-lein a sgyrsiau uniongyrchol gyda phobl ifanc, ac mae'r gweithgareddau cymdeithasol hyn wedi creu amgylchedd lle gallai trafodaethau ynghylch gwleidyddiaeth a democratiaeth ffynnu. Roedd y dull hwn yn ein galluogi i gyrraedd pobl ifanc yn uniongyrchol y tu hwnt i leoliadau addysg ffurfiol, gan ddarparu man croesawgar iddynt allu trafod y rhwystrau sy'n atal cyfranogiad llawnach.

Roedd hyn yn fwy heriol yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd y llynedd oherwydd y mesurau diogelwch iechyd y cyhoedd a oedd ar waith o ganlyniad i'r pandemig. Ond rydym eisiau i'n holl bobl ifanc ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth am bwysigrwydd cofrestru i bleidleisio a'u llais yn ein democratiaeth. Mae dysgu am y broses ddeddfwriaethol a strwythurau llywodraethol, deddfu, datganoli, pleidleisio ac etholiadau i gyd yn allweddol i gefnogi dealltwriaeth ein pobl ifanc o wleidyddiaeth, ond hefyd i gyfranogi ynddi. Rydym yn cydnabod bod addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgloi eu hawydd i gymryd rhan yn ein democratiaeth ac arfer eu hawliau.

Pan ymgynghorwyd ar ymestyn y bleidlais yn 2018, dywedodd pobl wrthym fod angen mwy o ymwybyddiaeth ac addysg i gynyddu cyfranogiad a gwyddom fod angen addysg briodol arnom fel y gall ein pobl ifanc wneud dewis gwybodus yn y blwch pleidleisio. Rwy'n cytuno â llawer o'r sylwadau a wnaed ynglŷn â phwysigrwydd yr addysg ddinesig honno. Bydd ein Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n cael ei gyflwyno o fis Medi ymlaen, yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gynnwys dysgu am hawliau yn eu cwricwlwm, gan gynnwys cefnogi ein dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'u hawliau democrataidd a sut i'w harfer. Ac rwyf am ychwanegu pwysigrwydd hanes lleol hefyd yn rhan o'r prosesau addysg hynny. Rydym wedi buddsoddi mewn adnoddau addysgol i'n hysgolion a'n colegau i ddarparu'r cymorth y mae pobl ifanc yn dweud wrthym y maent eu hangen, ac rydym wedi cynhyrchu adnoddau dysgu proffesiynol i gefnogi ein hathrawon i addysgu'r maes hwn yn ddiduedd ac yn hyderus. Mae mwy o adnoddau'n cael eu datblygu i gefnogi dinasyddiaeth fyd-eang a dysgu am ein hawliau fel dinasyddion.

Rydym wedi ariannu rhaglen Deialog Ddigidol Cymru gan Politics Project, lle mae Aelodau o bob rhan o'r Senedd a llywodraeth leol yn mynychu sesiynau ar-lein gyda'n plant a'n pobl ifanc i ymgysylltu â hwy a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i wleidyddion. Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus, fel y gŵyr yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ar ôl rhoi ei hamser i fynychu un gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Diolch i'r holl Aelodau yn y Senedd a gymerodd ran hyd yma a'r rhai a fydd yn cymryd rhan yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wrth i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid addysg i gefnogi ein hysgolion yn y maes dysgu hwn. Wrth wneud hynny, rydym eisiau i'n plant a'n pobl ifanc gael y cyfleoedd a'r profiadau i gynyddu eu dealltwriaeth o ddemocratiaeth a'r rôl y mae'n rhaid iddynt ei chwarae fel dinasyddion mewn ffordd ddiddorol sy'n hybu arfer gydol oes o gyfranogi. Mae'n debyg y byddwn hefyd yn dweud wrth yr Aelod y bydd yn ymwybodol ein bod yn edrych ar gyflwyno Bil diwygio etholiadol, a fydd, gobeithio, yn agor y ffordd y mae ein system etholiadol yn gweithredu, yn cynyddu hygyrchedd, gan greu system etholiadol fodern ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, un a allai fod yn eithaf gwahanol i etholiadau Llywodraeth y DU, ond un lle credaf y bydd llawer o gyfleoedd i edrych ar ffyrdd arloesol, modern a newydd o fynd ati i annog a sbarduno cyfranogiad yn ein system etholiadol. Diolch.