Twf Economaidd yn y Gogledd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:31, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Mae canlyniadau'r cyfrifiad newydd yn dangos bod y boblogaeth yn gostwng mewn nifer o awdurdodau lleol ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweld y boblogaeth dros 65 oed yng Nghymru yn cynyddu, ac mae'r boblogaeth 15 i 25 oed wedi gostwng yn ystod cyfnod y cyfrifiad. Nawr, ddoe, gwadodd y Prif Weinidog, i bob pwrpas, fod tuedd glir lle rydym yn colli llawer o bobl ifanc o’n cymunedau ledled Cymru, ac nid yn unig pobl yn symud allan o Gymru, ond pobl yn symud o gymunedau gwledig i gymunedau trefol, o’r gogledd i’r de. Pa risg y mae hynny’n ei pheri, yn eich barn chi, i dwf economaidd yn fy rhanbarth yn y gogledd, a beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i geisio mynd i’r afael â’r broblem honno?