Economi Casnewydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:38, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, diolch byth, mae Casnewydd yn mwynhau llawer o fanteision datblygu economaidd. Credaf fod ei lleoliad daearyddol, rhwng dinasoedd mawr Bryste a Chaerdydd, a'i manteision cyfathrebu yn sgil y system reilffyrdd a'r draffordd, er enghraifft, yn gryfderau pwysig iawn. Ac mae bod yn rhan o’r brifddinas-ranbarth, yn ogystal â phorth trawsffiniol y gorllewin, yn bwysig iawn yn wir. Tybed a allwch ddweud wrth y Siambr, wrthyf fi, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grwpiau rhanbarthol hynny i ddatblygu'r gwaith hwnnw, a sicrhau ei fod yn cynhyrchu'r mathau o fuddion y mae pob un ohonom am i Gasnewydd a'r ardal gyfagos eu cael.