Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Rydym wedi cynnal ymgyrch ar y cyd gyda'r sector ar gyfer recriwtio ac edrych ar anghenion sgiliau'r dyfodol. Mae'n bwynt sydd wedi'i godi gyda mi yn rheolaidd, ac wrth gwrs, mae'r sector yn eithaf amrywiol. Gallwch fynd o leoliadau bwyta o safon uchel, er enghraifft, fel rhan o'r sector, i'r hyn a fyddai'n lleoliad traddodiadol o fewn ardal leol, ac nid ar yr un pen. Felly, rydym yn cydnabod bod hyn hefyd yn gysylltiedig â meysydd eraill. Mae cydgysylltiad amlwg rhwng lletygarwch a thwristiaeth a'r strategaeth digwyddiadau yr ydym newydd ei chyhoeddi heddiw hefyd. Rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am y gwaith a wnawn ym maes lletygarwch i ymdrin â sgiliau a chanlyniadau’r ymgyrch yr ydym wedi’i chynnal gyda hwy drwy gydol y flwyddyn hon.