Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch. Y weledigaeth ar gyfer y banc cymunedol, sydd bellach yn cael ei ddatblygu gan ein partneriaid, Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, yw y bydd yn fanc gwasanaeth llawn sydd â'i bencadlys yng Nghymru ac y bydd yn darparu cynnyrch a gwasanaethau bancio dwyieithog drwy amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys dros y ffôn, yn ddigidol ac mewn safleoedd ffisegol.