Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr. Gadewch inni fod yn glir nad yw'r bwrdd i fod yn gynrychiolaeth ddaearyddol. Pe byddem yn dechrau hynny, byddai'n anodd iawn cael cynrychiolaeth o Gymru gyfan. [Torri ar draws.] Rwyf am barhau. Cefais y pleser o siarad â Dr Rajan Madhok. Mae'n rhywun a ymddeolodd i Gymru bedair blynedd yn ôl. Mae wedi cael gyrfa hynod o ddisglair. Bu'n feddyg iechyd y cyhoedd, bu'n gyfarwyddwr ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, bu'n gadeirydd Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd, mae wedi bod ar y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac mae wedi cael profiad o weithio ar Ynysoedd Shetland. Nid oeddwn yn gwybod bod yna gyfnod cymhwyso i fod yn Gymro. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Torïaid yn ei argymell bellach? Gadewch i ni fod yn gwbl glir y bydd y dyn hwn yn gynrychiolydd anhygoel. A wyddoch chi beth arall? Siaradais ag ef yn Gymraeg.