Y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:23, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n penderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Maent yn ystyried anghenion eu poblogaeth leol, ac mae hynny'n seiliedig ar waith y byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n cynnwys paneli dinasyddion. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr o bob cyngor iechyd cymuned yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru.