Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr. Rwy'n treulio llawer o amser ar hyn, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych. Mae gennym brif swyddog deintyddol newydd, a chredaf ei fod o ddifrif yn ceisio deall y sefyllfa, ac mae'n deall difrifoldeb y sefyllfa. Nid yw'n sefyllfa sy'n unigryw i Gymru, mae'n fater sy'n her ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Rydym ymhellach ymlaen nag y maent yn Lloegr gyda'r contract newydd a gobeithiwn y bydd hynny'n darparu 112,000 o gyfleoedd newydd ar gyfer mynediad i gleifion, a chredaf y bydd hynny'n arwyddocaol. Yn y gogledd, o ran y contract, mae 96 y cant o'r practisau wedi ymrwymo i'r contract newydd hwnnw. Felly, bydd newid yn y ffordd y mae deintyddion yn ymdrin â'r mater hwn, ond rydym yn gobeithio y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth. Ac wrth gwrs, rydym yn canolbwyntio yn awr hefyd ar hyfforddi mwy o therapyddion deintyddol a dyna yw hanfod academi Bangor.