Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod nifer y bobl sy'n aros am ddwy flynedd wedi gostwng yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ychydig wythnosau'n ôl. Bu gostyngiad o 3.4 y cant. Felly, credaf fod hynny'n dangos ein bod, mewn gwirionedd, yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Yn amlwg, bydd gennym fwy o ffigurau'n dod allan yr wythnos nesaf, a fydd yn dangos i ni a yw'r newid hwnnw wedi parhau. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni ystyried y ffaith nad yw COVID ar ben, ac mae'r ffaith bod gennym bron i 2,000 o bobl yn dal i fod yn sâl oherwydd COVID neu broblemau'n ymwneud â COVID yn golygu bod yr her yn dal yno. Ac felly, wrth gwrs, mae'n rhaid inni gynllunio. Wrth gwrs, os byddwch yn parhau i gael y tonnau hyn, yr anhawster yw y byddwn yn cael ein bwrw'n ôl. Ond fe'm calonogwyd yn fawr gan y ffaith ein bod, am y tro cyntaf, wedi gweld y ffigurau hynny'n gostwng yn ystod y mis diwethaf.