Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Rwy'n derbyn eich ymrwymiad personol, Weinidog, ac rwy'n sylweddoli mai dim ond ers 12 mis yr ydych wedi bod yn eich swydd, ac rwy'n derbyn eich bod wedi cael lwc ddrwg. Ond a gaf fi ofyn i chi am eich asesiad chi o pam y mae Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa hon sy'n llawer gwaeth na'r sefyllfa mewn unrhyw ran arall o'r DU? A rhaid i chi gydnabod methiannau er mwyn deall lle mae angen gwneud gwelliannau.