Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn, Joel. Pryd bynnag y byddwn yn ymdrin â materion corfforol lle mae pobl yn wynebu sefyllfaoedd anodd tu hwnt, rwy'n credu bod rhaid inni ystyried yn benodol, efallai, yr effaith ar iechyd meddwl y bobl sy'n ceisio ymdopi â'r sefyllfaoedd hynny, ac felly, yn amlwg, lle bo'n bosibl, dylid gwneud asesiad anghenion cyfannol. Ond rwy'n falch fod gennym arbenigwyr go iawn yng Nghymru ym maes tiwmor yr ymennydd. Dyfarnwyd statws canolfan ragoriaeth i Ganolfan Niwro-oncoleg Caerdydd gan y Tessa Jowell Brain Cancer Mission, ac rwy'n falch iawn hefyd fod £9.4 miliwn wedi'i fuddsoddi yng nghanolfan ymchwil delweddu'r ymennydd Prifysgol Caerdydd.