Cyfleoedd Chwarae Plant

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:53, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Mae mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pob plentyn. Rwy'n falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu, gan warantu hawl plant i chwarae drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn sicrhau digon o gyfleoedd, drwy'r ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae.