Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn, Mike, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am eich mam. Credaf mai'r hyn sy'n glir yw bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn, oherwydd, yn amlwg, mae meddygon teulu'n gweld niferoedd dirifedi o bobl sydd â chur pen neu broblemau gyda chydbwysedd neu symptomau amwys, megis blinder, felly mae'n anodd iawn iddynt fod yn gwbl glir. Ac mae canllawiau proffesiynol cydnabyddedig iawn eisoes ar waith gan NICE i feddygon teulu atgyfeirio oedolion sy'n colli gweithrediad niwrolegol canolog yn gynyddol am archwiliad brys. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod y GIG yng Nghymru bellach yn cyflwyno canolfannau diagnostig cyflym i'r boblogaeth gyfan, ac rwy'n falch o ddweud fod hynny'n cael ei ddefnyddio a bod llawer o bobl bellach yn cael eu atgyfeirio.