Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae hwnnw'n ymateb calonogol iawn, oherwydd yn ddiweddar rhannodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru â'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol—nid oes modd dweud hynny'n gyflym, mae'n ddrwg gennyf—eu cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gallwn dyfu pêl-droed yng Nghymru i wella iechyd y genedl. Roedd eu cais am fuddsoddiad o £10 miliwn y flwyddyn am ddegawd. A gwyddom, yng Nghymru, er gwaethaf ein cariad at rygbi, fod pêl-droed yn dod i'r amlwg fel y gamp tîm fwyaf poblogaidd o ran diddordeb a chyfranogiad y cyhoedd, gyda phêl-droed cadair olwyn drydan a phêl-droed cerdded yn dod yn fwyfwy poblogaidd hefyd. Mae cyfle, drwy gwpan y byd, i ysbrydoli pobl o bob oed a chefndir i ddod yn fwy heini a gwella iechyd y cyhoedd. Rydych wedi amlinellu rhai o'r pethau, ond a fydd ymgyrch weithredol hefyd i sicrhau ein bod yn manteisio ar hyn? Diolch.