Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn, John, a gwn eich bod yn un o gefnogwyr brwd y rasys parkrun, a chredaf eu bod yn chwarae rhan enfawr yn sicrhau y gallwn gael pobl yn fwy egnïol ac rwy'n awyddus iawn i'w cefnogi.
Cyn y pandemig, roedd fy swyddogion mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a parkrun UK ynghylch rhaglen i hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer parkrun, ac mae practisau yng Nghymru eisoes wedi bod yn cefnogi'r rhaglen hon. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ailsefydlu'r cysylltiadau hyn ac ystyried gwaith pellach ar hynny y gellid ei ddatblygu ledled Cymru.